Ymunwch â Ni
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn artist/gwneuthurwr preswyl?
Llogi lle arddangos
Cynhaliwch arddangosfa o'ch gwaith am £50 yr wythnos.
Ni chodir comisiwn ar unrhyw waith a werthir.
Addas ar gyfer gwaith 2 a 3 dimensiwn.
Cynnal gweithdy
Mae ein gofod am ddim i unrhyw un o'r gymuned leol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych os oes gennych rywbeth mewn golwg.
Defnyddiwch ein hadran adnoddau
Llyfrau celf a chrefft cyfoes ar gael i'w defnyddio yn yr oriel.
Dewch o hyd i ysbrydoliaeth neu gyfeiriadau ar gyfer eich astudiaethau o'n casgliad.
Gwerthfawrogir unrhyw roddion i'r adran hon.
Gwirfoddoli
Fel elusen gofrestredig, mae Oriel Glan y Dŵr yn croesawu gwirfoddolwyr i gefnogi'r fenter, fel ymddiriedolwr neu drwy gymryd rhan mewn ffordd uniongyrchol ac ymarferol yng ngwaith yr oriel. Os oes gennych sgil neu ddiddordeb penodol ac ychydig o oriau yn ystod y mis i'w sbario, cysylltwch â ni.