FFOTOGRAFFYDDHeather Bennett

Mae gan bob un ohonom ein ffordd unigryw o weld, a phan fydd pobl yn gofyn i mi “Sut ydych chi’n gwneud lluniau fel’na?”, fy ymateb yw “Peidiwch hyd yn oed â meddwl fod angen trïo: yr hyn sy’n bwysig yw bod gan bob un ohonom ei ffordd ei hun o weld”.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi fy ngweld yn cael cyfle i deithio i bellafoedd byd diolch i gymynrodd a dderbyniais, ond mae fy nghalon yn dal i lynu’n dynn wrth fy Sir Benfro fabwysiedig. Yn ddiamau, dyma un o’r llecynnau harddaf yn y byd, gyda’r newid tymhorau a thywydd uwchlaw tir a môr.

Cydiais mewn camera am y tro cyntaf yn naw mlwydd oed a chefais fy nysgu gan fy nhad i argraffu mewn du a gwyn pan oeddwn yn un ar ddeg. Fe wnaeth y cyffro hwnnw a ddeilliodd o’r cnwd cyntaf o brintiadau du a gwyn wrth iddyn nhw ymddangos ar dudalennau gwag o bapur a ninnau’n sefyll yn ein cwman uwchlaw hambyrddau datblygu mewn ystafell dywyll dros-dro – oedd mewn gwirionedd yn ystafell ymolchi – esgor ar oes o ymwneud â’r gelfyddyd. Yna daeth ‘osgoi a llosgi’ er mwyn dod â chreadigrwydd i’r printiadau; erbyn hyn mae’n ymwneud â chamerâu cynyddol gymhleth ac, ambell waith, gymorth meddalwedd. Fydda i ddim yn defnyddio Photoshop rhyw lawer; mae’n well gen i osod y camera ar gyfer yr effaith yr wyf yn dymuno’i gael, a defnyddio ffenestr y camera i gropio’n dynn, ond mae’r gallu i newid siâp y ddelwedd i un sgwâr yn ddefnyddiol iawn yn fy marn i.

Fe’m ganed yn 1950, ac rwyf wedi gweld llawer o newid ers hynny: mae cael mynediad i’r rhyngrwyd yn golygu ein bod ni’n fwy ymwybodol o’r problemau sy’n wynebu’r byd a dynoliaeth heddiw nag yr oedd modd i ni fod cynt. Mae’n teimlo fel pe bai pob un ohonom yn gysylltiedig â’n gilydd ac â’r byd ble rydym ni’n byw. Rwy’n ceisio, trwy fy ngwaith, i rannu fy ngolwg fy hun ar y daith y mae pob un ohonom arni: weithiau yn y dirwedd, weithiau mewn cip ar bobl yn y dirwedd ac weithiau mewn gwrthrychau sydd, oherwydd eu siâp a’u lliw, yn torri drwy’r cymhlethdod at y symlrwydd sydd ei angen ar bob un ohonom, efallai.

Mae gan bob un ohonom ein ffordd unigryw o weld, a phan fydd pobl yn gofyn i mi “Sut ydych chi’n gwneud lluniau fel’na?”, fy ymateb yw “Peidiwch hyd yn oed â meddwl fod angen trïo: yr hyn sy’n bwysig yw bod gan bob un ohonom ei ffordd ei hun o weld, a thrwy rannu hynny y gallwn ddod i ddeall ein gilydd damaid bach yn well. Mae pob un yr un mor werthfawr â’i gilydd”. Fy nghred yw y bydd cysylltu â’n gilydd ar lefel sylfaenol yn ein helpu yn y pen draw i ddathlu gwahaniaeth, a thrwy wneud hynny y bydd rhyfeloedd yn peidio, ac y bydd pobl yn gofalu digon am ei gilydd i rannu bwyd ac adnoddau. Cyfrifoldeb pob artist yw helpu’r broses hon am gyhyd ag y cymer hi.