FFOTOGRAFFYDD Philip Clarke

Dywedir mai hediad gwylan y graig (fulmar) a ysbrydolodd gynllun Mitchell ar gyfer y Spitfire, yr awyren harddaf a gynhyrchwyd erioed, does bosib?

Mae gan wylan y graig ymdeimlad cymdeithasol cryf â’i gydrywogaeth, ond ar yr un pryd mae’n ymhyfrydu’n fawr mewn perfformio ar gyfer rhywogaethau eraill, Maen nhw’n dwlu ar awgrymu llwybrau ffug, ac yna sgubo uwchlaw pen rhywun o’r tu cefn.

Mae’r ffotograffau hyn yn dangos sut y bydd hediad yn dibynnu ar gydamseru manylion pitw, a sut y bydd pob symudiad yn cael ei gerfio i wneud yn fawr o reolaeth.

Mae Philip Clarke yn draddodiadwr sy’n meddu ar sgiliau traddodiadol yr ystafell dywyll. “Beth â dal blino eich hun o flaen sgrin, pan allwch brofi gwefr adeiladu delwedd unigol â chyfuniad o olau a halennau? Does dim cystadleuaeth, mewn gwirionedd.”

Arddangosfa nesaf Philip yn Oriel y Parc yw Company of Souls 2 gyda Geoff Yeomans. Mae ei ran ef yn astudiaeth anuniongyrchol o sut yr ymgorfforir cred, yng nghyd-destun arbennig Cadeirlan Tyddewi.