CELF GAIN A CHERFLUNWAITH Barbara Price

Fe’m ganed yn Poole, Dorset, ac enillais radd mewn tecstilau o Goleg Celf Farnham ac yna PGATC ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Dysgais mewn ysgol breifat yn Bournemouth cyn priodi a symud i Gymru yn 1982. Bûm yn gweithio allan o fy stiwdio yn y Bont-faen am bum mlynedd, gan wneud clytwaith crog, a phaentio ac arddangos ble bynnag y gallwn.

Yn 1992, symudon ni i Sir Benfro, ac yn anffodus bu farw fy ngŵr yn 1993. Yn y pen draw, ymgartrefais ac ailbriodi yn 1997. Ers hynny rwyf wedi gallu canolbwyntio ar fy ngwaith paentio a gosod gwreiddiau yn Sir Benfro. Rwyf wedi bod yn dysgu ‘celf er pleser’ i oedolion yn Abergwaun ers 1995, a heb edrych yn ôl ers hynny. Rwyf wir yn mwynhau cyflwyno paentio a darlunio i eraill.

Mae fy mhaentiadau’n mynd â mi ar daith o un pwnc i bwnc arall, a byddaf yn defnyddio cyfryngau amrywiol yn aml. Alla i ddim â dweud bod gen i hoff gyfrwng, heblaw’r cyfrwng yr wyf yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Gellir gweld dylanwad tecstilau drwy fy holl waith yn y defnydd a wnaf o liw a gwerthoedd tonyddol. Rwy’n mwynhau rhannu’r delweddau a byddaf yn cymysgu llawer o arlliwiau ac eiliwiau o’r un lliw er mwyn ceisio dal golau Sir Benfro rywsut.

Mae byw yma yng ngogledd Sir Benfro’n rhoi cyflenwad diddiwedd o ysbrydoliaeth i mi, o ran gwylltineb y tir a dwyster y golau a’r lliw. Mae cysgodion yn dipyn o obsesiwn gen i hefyd, am fod hyn yn trawsnewid y lliwiau’n lliaws o arlliwiau tywyll, dirgel. Rwyf wedi bod yn byw yng ngogledd Sir Benfro ers dros 20 mlynedd bellach, ac mae’r bobl leol wedi bod yn ysbrydoliaeth a chefn parhaus i mi dros y blynyddoedd.

Cerfluniau