CELF GAIN Graham Hadlow

Gan ganolbwyntio’n llwyr ar ddyfrlliw, mae Graham Hadlow wedi byw a gweithio yn Sir Benfro ers 1970, gan ddwyn ysbrydoliaeth enfawr ar gyfer ei baentiadau yng Nghymru.

Ac yntau’n hanu o Swydd Efrog, astudiodd Graham Ddylunio Creadigol yng Ngholeg Addysg Loughborough.

Yn 1970, ymunodd â staff Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod, ble bu’n athro cerameg, cyn cael ei benodi’n Bennaeth Celf a Dylunio yn 1986. Bu celf yn rhan flaenllaw o fywyd Graham erioed, ond ni chafodd gyfle i ymroi mwy i baentio yn ei amser hamdden tan 1988. Ar ôl cael ychydig o lwyddiant, penderfynodd adael byd addysg yn 1998 er mwyn canolbwyntio’n llawn amser ar baentio.

Mae’n ymdrin â phynciau eang, ond mae gan Graham hoffter arbennig am gychod ac aberoedd, ac mae awyr eang yn rhan hanfodol o’i baentiadau dyfrlliw llawn naws arbennig. Cafodd Graham sawl arddangosfa unigol mewn lleoliadau ledled Sir Benfro, yn ogystal â thrwy Gymru a Lloegr. Bydd Graham hefyd yn dysgu mewn dosbarthiadau gweithdy ac arddangosiadau’r gymdeithas gelf.