3 DIMENSIWN Luke Kite

Cafodd Luke Kite ei gar cyntaf – Hillman Minx – pan oedd yn ddeg oed, a’i feic modur cyntaf, beic treialau Honda 125cc pan oedd yn dair ar ddeg.

Am fod ef a’i fam a’i dad yn byw ar dir y Comisiwn Coedwigaeth, gallodd ddysgu sgiliau gyrru a beicio oddi ar y ffordd, ac roedd yn yrrwr abl cyn cyrraedd ei arddegau.

Amgylchynwyd Luke â metel o bob math – darnau sbâr ar gyfer ceir a beiciau, hen drugareddau mecanwaith wedi darfod, ac offer asio – ers ei eni, i bob pwrpas, ac nid yw’n fawr o ryfeddod deall fod yr adnabyddiaeth fanwl hon â metel peiriannau ceir wedi dod yn gyfrwng ar gyfer ei ffigurau.

Nid yw’n cynllunio’i ddarnau, gan ffafrio gweithio o ryw syniad bras yn ei ben, ac yna ddatblygu’r hyn y mae’n ei wneud wrth fynd rhagddo. Ond amlygir ei ddawn artistig ynddynt. Efallai mai pwnc Gothig fydd i’r gwaith, a bod sawl darn yn deillio o ochr dywyll ei ddychymyg – dreigiau, sgorpionau, ystlumod, Marchogion du, meirch brwydr ac ati, ond os edrychwch chi ar ddarn fel ‘Menyw Voodoo a Draig’ Luke, mae’n llawn o ynni ffrwydrol a symudiad llifeiriol.

Serch hynny, ers darganfod olion coeden dderw gan mlwydd oed oedd wedi disgyn, mae wedi mentro portreadu adar, tyrchod daear, eryrod ac ati – yn wir unrhyw beth o fyd natur y bydd yn eu gweld o’i gwmpas, gan gynnwys coed o bob lliw a llun.
Mae’r cyfansoddiad – sy’n digwydd ar hap fel petai – yn dal i fod wedi’i synio’n ddychmygus, ac mae gweledigaeth yr artist, a gyfieithir i fod yn gadarnrwydd ffiligri a gloyw yn y darn gorffenedig, yn sgubo’r llygad yn ôl ac ymlaen ar hyd llinellau dramatig ei waith. Mae’n greadigaeth gyffrous ac – waeth beth fo’r pwnc a’r cyfrwng – yn ddarn grymus o gelf sy’n creu argraff.