CELF GAIN Lynn Parr
Wrth i mi gerdded a chanŵio yng nghefn gwlad ac ar hyd glannau Sir Benfro, gallaf amsugno hanfod gwyllt lleoliad – ton yn torri, afon lonydd, gweiriach yr haf ar glawdd.
Caf fy ysbrydoli gan olau dramatig, symudiad gwynt a dŵr, yr ymdeimlad mai byd natur sy’n rheoli a bod pobl yn ddibwys.
Yn fwy na dim, rwy’n ceisio cyfleu’r teimlad o fod yn y lle hwnnw ar amser penodol. Mae fy ngwaith yn reddfol, gan ddod allan o rywle’n ddwfn ynof pan nad oes gennyf mo’r un syniad penodol o ran cychwyn na ble i fynd, heblaw fy mod eisiau mynegi’r teimlad a gaf o ennyd ddarfodedig mewn lleoliad penodol.
Gwelir fy ngwaith mewn casgliadau preifat ledled y DU ac yn yr UDA, yr Almaen ac Awstralia. O bryd i’w gilydd byddaf yn cydweithio gyda fy ngŵr, Ben Dearnley, i greu gweithiau celf sy’n dod â’n cyd-gariad at fyw yng Ngorllewin Cymru yn fyw.