CREFFT Moriath Glass

Llai na hanner munud sydd o’r tŷ i fy stiwdio ble mae’r gwydr yn eistedd yn dawel, yn dal y golau, yn galw.

Mae’r bwrdd wedi’i baratoi, yn barod, a phrysurdeb gwyllt ddoe i lenwi’r odyn wedi’i glirio.

Rwy’n sefyll wrth y fainc… i’r dde mae’r torrwr gwydr, gefeiliau, pinshwns, llwyau, rhidyll, pen a phren mesur. I’r chwith, potiau amrywiol o bowdr a gwydr mâl, stensiliau, enamelau, plu a dalennau arian. Codaf fy nhorrwr, tynnu anadl a gwneud yr ysgriffiad cyntaf.

Gan ddefnyddio gwres yr odyn i ystwytho’r gwydr yn ei amryw ffurfiau – dalennau, powdr, enamel – a mynd ag ef drwy liaws o gyfresi tanio, byddaf yn creu ffenestri i edrych ar fydoedd. Tirluniau a ysbrydolir yn uniongyrchol gan yr ardal leol – o ffin Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ble rwy’n byw hyd at y parc cenedlaethol arfordirol yn Sir Benfro.

Rwy’n byw ac yn gweithio mewn stiwdio fechan ger Castellnewydd Emlyn, ynghanol caeau, coedwigoedd ac awyr eang, gerllaw Bae Ceredigion, afonydd Teifi a Thywi, bryniau’r Preseli – Carningli, Foel Drygarn, Carn Menyn. Ysbrydoliaeth ddi-ben-draw gan yr wybren. Y llinell bell honno sy’n diffinio’r gofod, yn diffinio anferthedd y dirwedd. Ymylon gorwel eang. Cydbwysedd ffiniau, y llinell rhwng bydoedd.

Bydd haenau o liw, paent, patrwm, ansawdd a phrint yn rhan o bob ffenest. Mae’r bylchau ymhob darn yr un mor bwysig â’r darnau lliw – maen nhw’n ychwanegu dyfnder a phersbectif, y gallu i dremio drwy bob ffenest, yn ogystal ag arnynt.

Ymgollwch yn y dirwedd, teimlwch yr awel ar eich wyneb, anadlwch anadl y môr, clywch alwad y gigfran.