CELF GAIN Ray Burnell
Fel rhywun sy’n dysgu Cymraeg, mae gen i ddiddordeb hefyd yn y cyswllt rhwng tirwedd, hanes ac iaith.
Rwy’n paentio’n bennaf ag olew ond rwyf wedi rhoi cynnig yn ddiweddar ar gelf cyfrwng cymysg, gan ddechrau cyflwyno deunyddiau fel tywod a llechi ac ati er mwyn ychwanegu ansawdd diddorol a siapau haniaethol i baentiadau o’r dirwedd a’r morlun.
Fe fydda i’n mynd i baentio yn yr awyr agored unwaith yr wythnos yn ystod y gwanwyn a’r haf. Mae paentio yn y dirwedd yn brofiad hollol wahanol i baentio yn y stiwdio. Gall fod yn dipyn o her i baentio tu allan yng ngorllewin Cymru weithiau, wrth i’r golau newid, a’r tywydd… heb sôn am y bywyd gwyllt, o bryfed llwyd cas i ferlod Preseli sy’n hoffi dwyn brechdanau!