CELF GAIN Tim Arthur

Ganwyd Tim yn Nyfnaint yn 1950. Hyfforddodd fel athro yng ngholeg y Central School of Speech and Drama yn Llundain, gan arbenigo mewn cynllunio setiau ac adeiladu cefnlenni.

Yn ystod ei gyfnod yn y coleg y dechreuodd baentio llecynnau anhyfryd, anghofiedig Camden yng ngogledd orllewin Llundain.

Canfu fod marchnad barod ar gyfer ei waith ymysg tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr, a gwnaeth yn fawr o gyfnod “Swinging London” gan werthu’i bosteri gorliwgar a baentiwyd â llaw i ymwelwyr o America oddi ar reilins Hyde Park.
Ar ôl iddo adael coleg yn 1971, bu’n dysgu Celf mewn ysgol breswyl yn nwyrain Dyfnaint cyn symud i Sir Benfro. Bu’n Diwtor Ieuenctid yng Nghanolfan Addysg Bellach Aberdaugleddau am rai blynyddoedd, cyn iddo sefydlu busnes llwyddiannus yn llogi bythynnod gwyliau yn sir Benfro. Yn ddiweddar, ail-ddarganfu Tim ei ddiddordeb mewn paentio a dylunio.

Cafodd gomisiwn i greu ‘awyrgylch Sbaenaidd’ ym Mwyty Casa Maria yn Hwlffordd, a thrwy ei baentiadau mae wedi datblygu ymdeimlad am leoliadau anarferol ac anghonfensiynol y sir, yn enwedig iardiau cychod a morgeinciau aberoedd sy’n cael eu hanwybyddu gan y llyfrau gwyliau.
Ei ddiddordeb mawr arall yw paentio tirwedd folcanig drawiadol ynys Lanzarote – a phennau blaen syfrdanol siâp llwy llongau pysgota’r Iwerydd sydd gan y Sbaenwyr.