CELF GAIN Tina Lewis

Ysbrydolwyd Tina gan Penderi a’i amrywiaeth enfawr o gynefinoedd ers sawl blwyddyn, a bu’r fferm yn sail i nifer o arddangosfeydd o baentiadau.

Ar ôl rhedeg ei horiel ei hun yn Swydd Caint, mae Tina bellach yn arddangos ei darluniau, dyfrlliwiau a phaentiadau olew mewn orielau lleol yn Sir Benfro, a chesglir ei gwaith gan lawer.