Ymweld â Ni

Mae’r Waterfront Gallery yn cefnogi artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf a rhai ar eu prifiant sy’n gweithio ar draws cyfryngau o baentio a cherflunio i ffotograffiaeth. Lleolir yr oriel ym Marina Aberdaugleddau, yn yr Hen Lofft Hwyliau ar Gei Discovery, ac mae ganddi olygfa dros brysurdeb y Marina â’i gychod a llongau pysgota. Ystyrir yr Waterfront Gallery fel un o leoliadau arddangos mwyaf blaengar Cymru, a fydd cyn bo hir yn arddangos gwaith rhyngwladol fel rhan o gystadleuaeth a rhaglen arddangos Cymru Gyfoes ar gyfer 2019-20, yn ogystal â pharhau i hybu doniau lleol drwy gynnig interniaethau i fyfyrwyr sy’n gadael ysgol a choleg.  Mae rhaglen ryngwladol hon yn parhau eleni gyda chystadleuaeth sydd ar gyfer gwaith dau a thri dimensiwn, ac yna arddangosfa yn y Glannau (Waterfront) a chan arddangosfa yng Ngwanwyn 2021 yn Oriel OXO ar y South Bank, Llundain.

The Waterfront Gallery in Milford Haven

Mae hi’n werth ymweld â’r oriel, ac ar y Marina ceir hefyd amgueddfa, nifer o siopau a lleoedd bwyta, a digonedd i’w weld, felly beth am neilltuo diwrnod i ddod yma. Yn yr un adeilad â’r oriel, mae Coco’s, bwyty deniadol a chroesawgar iawn sy’n gweini bwyd rhagorol, ac sy’n boblogaidd gyda’n hymwelwyr bob amser. Rydym ni’n agos at yr orsaf drenau ac at wasanaethau bws, ac i’r rheiny sy’n dod mewn car, mae digon o le i barcio’n rhad ac am ddim

Ymweld â Ni

Mae’r Waterfront Gallery yn cefnogi artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf a rhai ar eu prifiant sy’n gweithio ar draws cyfryngau o baentio a cherflunio i ffotograffiaeth. Lleolir yr oriel ym Marina Aberdaugleddau, yn yr Hen Lofft Hwyliau ar Gei Discovery, ac mae ganddi olygfa dros brysurdeb y Marina â’i gychod a llongau pysgota. Ystyrir yr Waterfront Gallery fel un o leoliadau arddangos mwyaf blaengar Cymru, a fydd cyn bo hir yn arddangos gwaith rhyngwladol fel rhan o gystadleuaeth a rhaglen arddangos Cymru Gyfoes ar gyfer 2019-20, yn ogystal â pharhau i hybu doniau lleol drwy gynnig interniaethau i fyfyrwyr sy’n gadael ysgol a choleg. Rydym ni’n rhagweld y bydd y rhaglen ryngwladol hon yn datblygu i fod yn ŵyl bob dwy flynedd i ddathlu celf dau ddimensiwn a thri dimensiwn.

The Waterfront Gallery in Milford Haven

Mae hi’n werth ymweld â’r oriel, ac ar y Marina ceir hefyd amgueddfa, nifer o siopau a lleoedd bwyta, a digonedd i’w weld, felly beth am neilltuo diwrnod i ddod yma. Yn yr un adeilad â’r oriel, mae Coco’s, bwyty deniadol a chroesawgar iawn sy’n gweini bwyd rhagorol, ac sy’n boblogaidd gyda’n hymwelwyr bob amser. Rydym ni’n agos at yr orsaf drenau ac at wasanaethau bws, ac i’r rheiny sy’n dod mewn car, mae digon o le i barcio’n rhad ac am ddim.

The Waterfront Gallery

The Old Sail loft
Discovery Quay
The Docks
Milford Haven
Pembrokeshire
SA73 3AF

Oriau Agor

Mawrth – Sadwrn
10.30am – 4pm
Ar gau i ginio
12:45 pm-1:30pm

Mae casgliad gwych o gelfyddyd gain, cyfryngau cymysg, ffotograffiaeth, tecstiliau, cerfluniau ac efyddau i’w canfod yn yr oriel. Yn 2019 dechreuwyd ein cystadleuaeth ryngwladol agored ‘Cymru Gyfoes’ gydag arddangosfa yn y Glannau ac yna arddangosfa hynod lwyddianus yn Orielau Mall.  Eleni rydym yn parhau gyda’r ail arddangosfa o weithiau dethol a gynhelir rhwng 12fed Tachwedd a 30ain Rhagfyr yn Oriel Glannau (Waterfront) cyn dangos yn Oriel OXO, Llundain rhwng Chwefror 25ain a Mawrth 7fed, 2021.

Mae Waterfront Gallery yn arddangos arloesedd ac amrywiaeth y gwaith a gynhyrchir gan ein hartistiaid crefft, gan gynnwys gwaith cerameg, papier-mâché, gemwaith, gwydr, efydd, metel a gwaith coed. Mae gennym hefyd ddetholiad o brintiau, cardiau a llyfrau.

AR FWS A THROED

I’r ymwelwyr sy’n teithio ar hyd Ffordd yr Arfordir, dim ond siwrnai fer ychwanegol sydd ei angen i gyrraedd Aberdaugleddau, penrhyn Dale a dyfrffordd y ddau Gleddau, yr ail harbwr naturiol mwyaf yn y byd, lle gellir ddod o hyd i ogofau cyfrinachol a thraethau hudol.

Mae dewis o gludiant bws i’w fwynhau fel gwasanaethau arfordirol y ‘Puffin Shuttle’. Gellir mwynhau tripiau cychod o Harbwr Aberdaugleddau, yn ogystal â llety gwyliau braf. Mae Aberdaugleddau wedi ei leoli ar Lwybr Arfordir Cymru / Sir Benfro, gyda’r llwybr yn ymlwybro drwy ddociau a harbwr Aberdaugleddau lle gellir mwynhau saib cyfleus am ddiod neu bryd o fwyd, neu hyd yn oed rhywfaint o siopa.

YN Y CAR

I gyrraedd mewn car, bydd yr A40 o Gaerfyrddin yn dod â chi i Hwlffordd sydd 7 milltir i ffwrdd, neu gellir mynd ar ffordd arall o Gaerfyrddin drwy adael yr A40 yn Sanclêr a mynd ar yr A477 i Ddoc Penfro, sy’n mynd â chi dros Bont Cleddau i Aberdaugleddau. Mae digon o le parcio ar Discover Quay lle mae’r oriel.

AR Y TRÊN

Mae cyrraedd ar y trên yn opsiwn arall o ystyried bod gorsaf Aberdaugleddau 200 llath o’r oriel a Harbwr Aberdaugleddau, yn ogystal â’r cysylltiadau bws lleol..

Cysylltwch â Ni

FFÔN: 01646695699