CELF GAIN Helen Barrack
A minnau’n hanu o Sir Benfro, wedi fy ngeni a’m magu yn Llawhaden, fe ges i blentyndod hapus iawn, yn llawn o lygaid-y-dydd, sipsiwn a blodau menyn.
Yn saith mlwydd oed ar ddydd Gŵyl Dewi, gofynnwyd i ni baentio baner Cymru, a dyna’r tro cyntaf i mi gael darlun ar wal yn yr ysgol. Dyna pryd y gwyddwn y gallwn baentio, ond ches i ddim anogaeth gan fy nheulu. Dywedodd fy nhad wrthyf pan oeddwn i’n bedair ar ddeg, “Alli di ddim â gwneud bywoliaeth drwy baentio lluniau”. Ond fi oedd ar frig y dosbarth celf drwy gydol fy nyddiau ysgol.
Priodais pan oeddwn yn 23 mlwydd oed, ac fe brynon ni ein tŷ cyntaf a gweithio’n galed i dalu’r morgais i gyd. Ro’n i’n gweithio yn Adran Gyfrifon Cyngor Gweithredol Sir Benfro, cyn iddo droi yn Ddyfed, ac ro’n i’n disgwyl fy mhlentyn cyntaf bryd hynny; erbyn hyn mae gen i ddau o blant a thri o wyrion.
Ar ôl magu fy mhlant at oedran ysgol, dechreuais fynychu dosbarthiadau celf gyda Theo Whalley yn y Ganolfan Addysg Bellach yn Hwlffordd. Dyma oedd y cam cyntaf at weld fy ngwaith yn cael ei arddangos.
Yn ddiweddar, mynychais gwrs byr gyda David Tress, a chwrs saith wythnos o hyd gyda Phrifysgol Aberystwyth i astudio ‘Haniaethu’r Dirwedd’ – dyna’r tro cyntaf i mi deimlo allan o ’nyfnder mewn dosbarth celf erioed, ond buan y des i arfer, ac o ganlyniad rwyf wedi canfod fy arddull fy hun o baentio, ac rwy’n mwynhau creu cyfuniadau newydd o ran lliw a siâp.