FFOTOGRAFFYDD Gina Hughes
“Rydym ni’n dod o hyd i le ar gyfer yr hyn a gollir gennym. Er ein bod ni’n gwybod y bydd cam enbyd y galaru’n gostegu ar ôl colled o’r fath, gwyddom hefyd y byddwn ni’n parhau i fod yn anghysuradwy ac na fyddwn ni byth yn darganfod rhywun i gymryd eu lle. Waeth beth all lenwi’r bwlch, hyd yn oed o’i lenwi’n llwyr, mae’n parhau, serch hynny, i fod yn rhywbeth arall.” Sigmund Freud
Rwyf wedi cael fy nenu erioed at y manylyn, gan roi sylw arbennig i harddwch eithriadol y manion, bod yn ymwybodol o’r arwyddocâd personol a gynhwysir mewn gwrthrych. Bydd pob eitem yn cael ei fframio mewn adran, ac mae’n dal cipolwg ar un ennyd gyflawn mewn amser, gan gyfuno gydag eraill i ddisgrifio atgofion am brofiadau byw, portread mewn ffrâm. Trefnir y gwrthrychau detholedig yn ofalus, gan roi ystyriaeth fanwl i gyfansoddi trefnus a’r palet lliw.
Mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn a gyfathrebir, y dehongliad y gellir ei ddarllen o’r cyfanwaith a’i rannau. Ar ôl ymchwilio i iaith gudd y blodau a symbolaeth mewn paentiadau bywyd llonydd o’r Iseldiroedd, rwy’n ymwybodol o haenau o ystyr. Mae rhosyn coch yn arwydd o gariad, un pinc yn gariad tyner, un gwyn yn cynrychioli diniweidrwydd, a mynegir mwy yn y modd y cânt eu trefnu, eu cyfosod i awgrymu poen a phleser.
Mae olion o hanes teuluol y rhai a aeth o’m blaen yn llinyn arian drwy’r cyfan.
Ac eto, yr hyn sy’n aros yn ddiddiwedd a digyfnewid yw’r cariad a brofwyd, yn y gorffennol, gan gyffwrdd â’r presennol ac arwain ymlaen at y dyfodol.
Fy nghasgliad o ffotograffau yn nodi themâu ar silff.
My collection of photographs setting out themes on a shelf.
Miners Lamp and Spoon.
Llwyfannu gwrthrychau i awgrymu thema.
Staging objects to suggest a theme
Letter To Sergeant
Trefniant gwrthrychau i awgrymu thema.
Arrangement of objects to suggest a theme.
Horses
Wedi’i ddewis yn ffres o fy ngardd.
Picked fresh from my garden