CELF GAIN Rosemary Graham
A hithau wedi’i geni ger y môr a threulio blynyddoedd mewn ardaloedd gwledig, mae gan Rosemary gariad at y môr a llecynnau gwyllt.
I’r ymdeimlad sydd gan rywle y bydd hi’n ymateb. Mae hi’n mwyhau gweithio oddi wrth yr hyn a wêl yn uniongyrchol, drwy gasglu gwybodaeth, atgofion ac argraffiadau, drwy gyfrwng darlunio a phaentio, ar gyfer ei phaentiadau haniaethol.
Mae hi’n herio’i hun yn barhaus a daliodd ati i astudio paentio dan gyfarwyddyd rhai o’r prif artistiaid cyfoes, gan arddangos ei gwaith ochr yn ochr â nhw hefyd. Mae ei phaentio’n cyfleu arddull rydd, lachar.
Meddai hi, “Rwy’n hoffi ‘rhyddid’ gyda’r brwsh a’r lliwiau, sy’n ymdoddi, yn cyfuno neu’n tasgu, gan ddibynnu ar yr hyn rwy’n gweithio arno. Mae’n daith sy’n fewnol ac yn allanol.”
Picasso: “Mae popeth y gallwch chi ei ddychmygu’n real. Nid wyf yn ymdrechu.”