Oriel Gelf Aberdaugleddau
Mae’r oriel unigryw 3,000 troedfedd sgwâr bellach yn arddangos gwaith rhyw 50 o artistiaid a gweithwyr crefft lleol yn rheolaidd, ynghyd â gwaith artistiaid preswyl ac arddangosfeydd amrywiol sy’n newid drwy gydol y flwyddyn.
Arddangosir paentiadau celf gain mewn dyfrlliw, olew, paent acrylig, cyfryngau cymysg, darluniau a phrint ochr yn ochr â cherfluniau, cerameg, crochenwaith, gwaith pren a metel, tecstilau, ffotograffiaeth, gwydr a gemwaith.
Sefydlwyd tref Aberdaugleddau yn 1793, wedi i Syr William Hamilton gael Deddf Seneddol yn 1790 i sefydlu porthladd yn yr ardal. Yn hanesyddol, defnyddiwyd yr harbwr naturiol fel porthladd ers y Canol Oesoedd, yn fan aros yn ystod teithiau i Iwerddon ac fel lloches gan y Llychlynwyr. Yn Gymraeg, daw enw’r dref o’i lleoliad ar aber afon Cleddau, a elwir weithiau yn afon Daugleddau, wedi ei ffurfiad o gydlifiad afon Cleddau Ddu ac afon Cleddau Wen.
CYMRU GYFOES
Cystadleuaeth agored ryngwladol ar gyfer Gwaith celf 2D a 3D mewn unrhyw gyfrwng ag eithrio ffotograffiaeth yw Wales Contemporary / Cymru Gyfoes.
Gwahoddir arlunwyr i gyflwyno Gwaith sydd wedi’i ysbrydoli gan Gymru, yn hanes hynafol y wlad, ei hanes celf, ei threftadaeth, ei thirwedd (yn wledig, trefol neu wleidyddol) a’i diwylliant cyfoes.
Yn dilyn galwad am geisiadau a welodd mwy na 1100 o ddarnau celf yn cael eu cyflwyno o bob rhan o’r byd, dewiswyd 150 o ddarnau ar gyfer ail Arddangosfa Cymru Gyfoes yn y Waterfront Gallery yn Aberdaugleddau, Sir Benfro rhwng 13 Tachwedd a 30 Rhagfyr 2020, ac yn oriel OXO yn Llundain yng Ngwanwyn 2021.