CELF GAIN John Cahill M.A (R.C.A)

 

Byddaf yn defnyddio darluniau neu ffotograffau’n gyfeiriad er mwyn cael pwynt cychwynnol yn aml, gan ddechrau gyda phaent sydd wedi’i deneuo’n fawr, a brwsh sabl mawr ar gyfer mapio’r prif gyfansoddiad er mwyn fy ngalluogi i wneud unrhyw newidiadau’n hawdd.

Fe ddowch o hyd i mi’n aml yn cerdded o gwmpas tirwedd wledig Cwm Cych, gogledd Sir Benfro, ble rwy’n byw.

Er fy mod i’n defnyddio natur a’r byd o’m cwmpas yn bwnc, dydw i ddim yn teimlo pwysau i lynu wrth yr hyn sy’n real, felly yn y stiwdio, y byd oddi mewn i’r llun sy’n cyfri. Mae’r paentiadau’n tarddu o leoliad sydd wedi tanio fy nychymyg, ac efallai y bydd y pwnc yn sefyllian yn y meddwl am fisoedd lawer cyn i mi roi brwsh ar gynfas.

Byddaf yn defnyddio darluniau neu ffotograffau’n gyfeiriad er mwyn cael pwynt cychwynnol yn aml, gan ddechrau gyda phaent sydd wedi’i deneuo’n fawr, a brwsh sabl mawr ar gyfer mapio’r prif gyfansoddiad er mwyn fy ngalluogi i wneud unrhyw newidiadau’n hawdd. Byddaf yn gweithio gan ddefnyddio brwshys llai o faint wrth i mi fynd ymlaen, er mwyn cyflawni ansawdd, tôn a lliw. Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn barhaus sy’n effeithio ar bopeth yn y llun, a bydd llawer o bensynnu’n digwydd yn y stiwdio. Bydd gen i sawl un ar waith ar yr un pryd yn aml, sy’n gweithio i mi am fy mod i wedyn yn gallu gadael un am rai dyddiau a dychwelyd ato â llygad newydd. Mae’n broses araf, ond fy nod yw creu’r llun gorau bosib.

Yn ystod sawl blwyddyn fel artist llawn-amser, mae John wedi datblygu’i arddull unigryw, nodweddiadol. Drwy ddefnyddio paent sy’n deillio o ddŵr fel gouache ac acrylig ar bapur 100% cotwm trwm, gellir cyfuno technegau gwlyb a sych i fanteisio ar nodweddion tryloyw a phŵl y paent, ac ynghyd â gwynder y papur ei hun, mae e’n gallu rheoli golau ac ansawdd. Mae’r dechneg amlhaenog hon yn defnyddio dabio, dotweithio a phwyntiliaeth i ddisgrifio’r effeithiau a wêl yn y byd o’i gwmpas, ac er bod hyn yn cymryd llawer o amser, mae’r canlyniadau’n llwyr gyfiawnhau’r ymdrech.