CELF GAIN Cynthia Morgans-Hurley

Mae Cynthia, a fagwyd yn ardal Hwlffordd, ac sydd wedi byw yno bron gydol ei bywyd, wastad wedi mwynhau gweithio ar brosiectau tecstilau creadigol o ran diddordeb.

Pan gymerodd Cynthia ymddeoliad cynnar, penderfynodd roi cynnig ar baentio er mwyn iddi allu ymgorffori hynny yn rhai o’i phrosiectau. Mynychodd ddosbarthiadau celf, arddangosfeydd a gweithdai lleol er mwyn dysgu cynifer o dechnegau â phosib.

Erbyn hyn, mae hi’n gweithio’n bennaf ag olew a phaent acrylig, ond mae hi’n hoffi arbrofi bob amser, yn enwedig gyda lliw, er mwyn cynhyrchu rhywbeth sydd ychydig yn wahanol. Daw ei hysbrydoliaeth o fyd natur, yn enwedig blodau a thirwedd Sir Benfro sy’n ei hamgylchynu.