CREFFT Juanita Humphris

Symudodd Juanita i Gymru yn 1991, ble sefydlodd ei busnes ei hun, ‘Clewter Jays’.

Mae hi’n defnyddio cyfrwng papier mache, sy’n rhyfeddol o amlbwrpas yn ei barn hi, ac mae’n mwynhau datblygu’i mwydion papur a’i thechnegau haenu’i hun.

Ysbrydolir Juanita gan amrywiaeth y byd naturiol o’i chwmpas. Mae sawl un o’i darnau’n hynod, gydag ymdeimlad o sbort, tra bo eraill yn fwy tebygol o beri i chi feddwl. Bydd hi’n ailgylchu gymaint â phosib, er mwyn creu eitemau cyfoes, creadigol a lliwgar, a phob un wedi’i baentio â llaw.

Derbyniwyd Juanita i Gymdeithas Artistiaid Bywyd Gwyllt ar gyfer eu harddangosfa yn Llundain yn 2005.