CREFFT Marion Walker

Ar ôl astudio yn Academi Gelf Caerfaddon, gweithiodd Marion ar sawl prosiect mewn cyfryngau gwahanol, ond dychwelyd i weithio â chlai y bydd hi dro ar ôl tro. Ysbrydolir y gwaith hwn gan dirwedd arfordir Sir Benfro a’r twyndiroedd ger Rhydychen, ble bu’n byw tan yn ddiweddar.

Ers dros 25 mlynedd, bu Marion yn creu darnau modern unigryw â llaw yn ei stiwdio.

Gan ddwyn ysbrydoliaeth o’r newid mewn gwead, lliw a symudiad yn y tirweddau o’i chwmpas, bydd Marion yn defnyddio ocsidau a gwydreddau i gael gorffeniad digymell ac unigryw. Mae pob darn yn cael ei daflu â llaw a’i baentio cyn cael ei danio i dymheredd crochenwaith caled.