CELF GAIN Neil Stokes

Mae Neil yn artist proffesiynol sydd bellach yn byw ac yn creu celf yn ne Cymru.

Bydd yn gweithio’n bennaf â chyfryngau cymysg, gan ddefnyddio acrylig, cardbord, plastr, farnais, cortyn, ffyn bach pren a phapur tŷ-bach Bronco ac Izal.

Mae ansawdd yn elfen bwysig iawn iddo wrth greu’r gweithiau celf hyn. Y nod yn y pen draw yw tanio ymateb emosiynol drwy ddefnyddio ansawdd a lliw.