3-DIMENSIWN Sally Amoore
Mae Sally Amoore yn gerflunydd Prydeinig sydd wedi ennill gwobrau. Bydd ei cherfluniau efydd, nifer-cyfyngedig, o fywyd gwyllt yn canolbwyntio’n bennaf ar anifeiliaid a geir yn Affrica, ble cafodd hi ei magu.
Dros y blynyddoedd diwethaf, ar ôl cael ei heffeithio gan ddigwyddiadau yn Afghanistan, mae Sally hefyd wedi creu cyfres o gerfluniau milwrol sy’n darlunio bywyd ar flaen y gad i luoedd arfog Prydain.
Dros ddeng mlynedd ei gyrfa, mae gwaith Sally wedi ennill enw da am gynrychioli’r ffurf naturiol mewn ffordd wirioneddol, gan ennill clod mewn arddangosfeydd ledled y DU.
Cafodd Sally ei magu yn Kenya, ble datblygodd gariad dwfn at y byd naturiol. Dechreuodd ar ei gyrfa drwy ddefnyddio pastelau, cyn symud at glai, oedd yn rhoi mwy o ddyfnder i’w phortread o anifeiliaid, gan roi cyfle iddi fynegi hanfod ei phwnc â mwy o hygrededd. Gymaint â phosib, bydd Sally’n ceisio cerflunio o fywyd byw. Bydd hi’n dychwelyd yn aml i laswelltiroedd Affrica i wylio’i thestun yn eu cynefin naturiol, ac mae hi wedi bod ar deithiau antur i Ganolbarth Asia a mynyddoedd yr Himalaya.
Mae Sally’n byw ar fferm fechan yng ngorllewin Cymru, yn agos at y ffowndri sy’n bwrw’i cherfluniau mewn efydd.