CELF GAIN Anne Farrall Doyle

O oedran ifanc, darlunio oedd fy nghyfaill triw, ac ar ôl gwylio ffilmiau Hollywood, gallwn ddianc i fyd arall yn llawn o ddrama a delweddau, y gallwn geisio’u creu â’m pin ysgrifennu.

Cefais fy ngeni yn Swydd Caer ac astudiais yng Ngholeg Celf Stockport, ac yna treuliais gyfnod addysgiadol mewn Asiantaeth Hysbysebu, gan weithio yn y pen draw fel darlunydd ar fy liwt fy hun ag enw da rhyngwladol fel artist ffasiwn a ffigurol.

Ar ôl sawl blwyddyn o arbrofi a defnyddio’r rhan fwyaf o gyfryngau gwahanol, dyfrlliw yn bennaf, rwyf bellach yn teimlo mai olew a chyfryngau cymysg sy’n rhoi’r ffordd orau o allu gweithio’n rhydd, gan gyffroi bob amser a bod yn rhan o’r bartneriaeth greu hon.

O raid, byd unigolyddol yw fy myd gwaith. Ar ôl bore o fraslunio, cynllunio a ffynonellu deunyddiau, daw’r eiliad pan ddenir fi at fy mhrosiect, er mwyn gadael i’r cynfas a’r lliwiau i agor darlun y meddwl i mi. Byddaf yn gweithio’n gyflym: dwylo’n hedfan ac yn rhoi ffurf ar bethau ar draws y cynfas, dod o hyd i gydbwysedd a ffurf, ac ar ôl i bopeth ddechrau esblygu, byddaf yn dechrau gweithio ar lefel arall, reddfol; bellach rwy’n ymddiried yn fy ysbrydoliaeth a’m profiad, drwy gyfrwng y cof a’r teimladau, gan greu gweadau a haenau lluosog, gan geisio torri’n rhydd o’r cyffredin a’r disgwyliedig. Dyma lawenydd a phoen paentio.

Mae fy ngwaith wedi esblygu o’r cynrychioliadol, drwy Argraffiadaeth hyd nes fy mod erbyn heddiw’n plymio i feysydd archwilio newydd gan greu stori neu ymdeimlad heb ddefnyddio testun arsylwadol. Daw’r ysbrydoliaeth nawr o’r byd naturiol sydd yn ein planed a thu hwnt iddi.
Bellach rwy’n byw yn Sir Benfro a gallaf roi diolch am harddwch ein planed, gan obeithio bod fy mhaentiadau’n mynegi tipyn bach o ryfeddod y Ddaear hon.