CELF GAIN Chris Prosser

Mae’r môr wedi fy nenu erioed a chaf fy syfrdanu’n gyson mor hardd yw arfordir garw Sir Benfro sy’n fy amgylchynu. Byddaf yn aml yn dianc am y dydd i archwilio ardaloedd newydd ac amsugno’r awyrgylch.

Bydd gwybodaeth weledol yn cael ei storio a’i dogfennu drwy gyfrwng ffotograffau a brasluniau yn ogystal â’r cof.

Defnyddir y rhain yn ôl yn y stiwdio fel pwynt cychwynnol ar gyfer datblygu fy ngwaith. Rwy’n cael fy hudo gan symudiadau a rhythmau’r môr, a byddaf yn ceisio dal y rhyngberthynas fythol symudol rhwng golau a chysgod mewn cyfosodiad, gan greu ymdeimlad o ddrama gyffrous neu lonyddwch heddychlon.

Yn wreiddiol o Dredegar, Gwent, yn Ne Cymru.

Addysgwyd yng Ngholeg Celf a Dylunio Casnewydd a Pholytechnig Brighton. Gweithiodd fel dylunydd graffeg yn y Partners Design Consultancy, Llundain, a Peter Gill Associates yng Nghaerdydd.

Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Celf yn Ysgol Tasker Milward.