CREFFTRiitta Sinkkonen-Davies

Ganwyd Riitta yn y Ffindir, ble cafodd ei chyflwyno gyntaf i wehyddu gan ei nain.

Aeth ymlaen i astudio gradd BA mewn Dylunio a Thecstilau a Wehyddwyd yng Ngholeg Celf a Dylunio Turku cyn symud i Brydain yn 1974, ar ôl cyfarfod â’i gŵr, oedd yn Gymro.

Mae gwaith unigryw Riitta’n adlewyrchu’i gorffennol yn y Ffindir a’i chariad at dirweddau prydferth Sir Benfro, ei chartref mabwysiedig.

Bydd ei lliwiau’n atseinio newidiadau tymhorol o ran golau a thirwedd. Mae hi’n dwlu archwilio technegau traddodiadol er mwyn creu tecstilau cyfoes, sy’n ymarferol ac yn addurniadol ar yr un pryd. Lliain yw ei harbenigedd, ond bydd hi hefyd yn defnyddio ffibrau eraill fel sidan, gwlân, cotwm, fiscos a phapur. Bydd hi’n llifo’r edafedd yn arbennig ar gyfer pob darn, ac yn aml bydd y lliw’n cael ei beintio ar yr ystof cyn gwehyddu.

Yn ogystal â sawl comisiwn preifat, mae Riitta wedi cymryd rhan yn y gwaith o greu deunyddiau hanesyddol ar gyfer sawl amgueddfa, gan gynnwys Canolfan Lychlynnaidd Jorvik yn Efrog, Ymddiriedolaeth Man Geni Shakespeare yn Stratford-upon-Avon a Chanolfan Ymwelwyr Sutton Hoo yn Suffolk ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn 2003, derbyniodd gomisiwn i wehyddu’r lliain main a ddefnyddiwyd i wneud y wenwisg a wisgwyd gan Rowan Williams yn ystod ei wasanaeth ordeinio’n Archesgob Caergaint.

Yn 2000 derbyniodd Riitta Wobr Ymddiriedolaeth Theo Moorman.